Llanddewi Brefi
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Llanddewi.
Pentref bach yng nghanol cefn gwlad Ceredigion a sefydlwyd tua'r chweched ganrif yw Llanddewi Brefi. Cynhaliodd nawddsant Cymru, Dewi Sant, Synod Brefi yno. Rhoddodd hynny enw'r pentref ac mae eglwys y plwyf, sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif, yn arddangos cerflun ohono. Fe adeiladwyd yr eglwys ar dwyn, lle dwedir y cafodd y ddaear ei chodi'n wyrthiol dan draed Dewi Sant, er mwyn caniatáu iddo gael ei glywed yn glirach gan y bobl ymgynnulledig.
Hawliodd Llanddewi Brefi sylw'r cyfryngau ar ddechrau'r 2000au yn sgil y rhaglen gomedi Little Britain ar y BBC a'r cymeriad Daffyd, yr unig ddyn hoyw yn y pentref. Am gyfnod, bu nifer o wylwyr y rhaglen yn mynd i'r pentref i gael tynnu llun ger yr arwydd i mewn a chafodd hwnnw ei ddwyn sawl gwaith gan ffans o'r gyfres.