Tal-y-bont (Ceredigion)
Oddi ar Wicipedia
- Am enghreifftiau eraill o'r un enw lle, gweler Tal-y-bont.
Pentref yng ngogledd Ceredigion yw Tal-y-bont (hefyd Talybont). Fe'i lleolir ar y briffordd A487 tua hanner ffordd rhwng Aberystwyth i'r de-orllewin a Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain.
Saif y pentref ar lan Afon Leri a'r Afon Ceulan yn ardal Genau'r Glyn, wrth droed bryn Ceulan Maes-mawr (383m). Mae nifer o hen feini arian, plwm a melinau gwlan yn amgylchynu'r pentref. Er i arian a phlwm cael eu cloddio yno ers adeg y Rhufeiniaid, tyfodd y pentref yn gyflym tuag at ddiwedd y 19eg ganrif ac adeiladwyd nifer o'r terasau yn ystod y cyfnod hwn ar gyfer y gweithwyr a fewnfudodd i'r ardal. Mae nifer o'r tai, gan gynnwys y Fferyllfa yn adeiladau rhestredig ac felly'n dal i gadw nifer o nodweddion gwreiddiol deiniadol megis ffenestri ddalennog. Dim ond 35 o dai oedd yn Nhal-y-bont yn 1835, bythynod to gwellt oedd y rhanfwyaf o'r rhain.
Ar un adeg roedd 15 siop, garej, dau fanc a dau capel ac eglwys yn y pentref; adeiladwyd y Tabernacl yn 1812, ac Eglwys Dewi Sant yn 1909, mae hefyd Bethel, Capel yr Annibynwyr. Neuadd Goffa er mwyn cofio'r rhai a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers 1966 mae'r pentref wedi bod yn gartref i wasg Y Lolfa. Mae garej dal i fod yn y pentref yn ogystal a siop torri gwallt, feryllfa a siop fach 'Spar', sydd â cyfleusterau swyddfa bost ynddi. Datganwyd ym mis Hydref 2007, fod y swyddfa bost ar y rhestr o'r rhai sydd yn bwriadu cael eu cau, mae'n debygol y bydd y siop yn anhebyg o allu ennill bywoliaeth heb allu cynnig gwasanaethau post.[1]
Mae dau dafarn yn Nhal-y-bont, Y Llew Gwyn a'r Llew Du. Delir sioe amaethyddol Tal-y-bont yn hen gaeau'r Llew Du yn flynyddol hyd heddiw. Mae'r tafarnau wedi dioddef cyfnod o newid dros yr ugain mlynedd diwethaf gan newid dwylo nifer o weithiau, yn bennaf gan cyn-drigolion o Lerpwl a Birmingham yn dilyn y freuddwyd o symyd i'r wlad a rhedeg tafarn. Mae'r Llew Du erbyn hyn wedi dychwelyd i ddwylo trigolion lleol.[2]
Mae gan y bentref Gymdeithas yr Henoed, Clwb Ffermwyr Ifanc, Women's Institute a changen Plaid Cymru.
Mae rai o drigolion nodweddiadol Tal-y-bont yn cynnwys yr arlunudd Ruth Jên a baentiodd murlun adnabyddus y Lolfa; a'r nofelydd Mihangel Morgan.
Mae papur bro Papur Pawb sy'n gweinyddu ardal Tal-y-bont, Taliesin a Tre'r Ddôl, yn cael ei olygu a'i argraffu yn y pentref.