Mwnt
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Mwnt (yn fwy ffurfiol Y Mwnt) yn gymuned fechan a phlwyf ar arfordir de Ceredigion, rhwng Aberteifi ac Aberporth.
Yn y 12fed ganrif ceisiodd y Ffleminiaid lanio yno, ond methiant fu eu hymgais i oresgyn Ceredigion. Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif dywedid fod esgyrn y goresgynwyr i'w gweld o hyd dan y tywod ar dywydd garw. Hyd tua diwedd y 18fed ganrif arferai trigolion y Mwnt ddathlu'r Sul cyntaf ar ôl Calan Ionawr trwy frwydro yn erbyn ei gilydd, efallai mewn coffadwriaeth o'r fuddugoliaeth ar y Ffleminiaid: Y Sul Coch y gelwid y Sul hwnnw.
Nodweddir Mwnt gan ei thirwedd drawiadol, yn arbennig y traeth cysgodlyd a'r hen eglwys gerllaw. Enw'r eglwys fechan wyngalchog yw Eglwys y Grog. Dyma'r eglwys hynaf yng Ngheredigion o ran ei hadeiladwaith, sy'n dyddio o'r 14eg ganrif fel y saif hi heddiw. Mae'r gwaith pren heb yr un hoelen ac mae'r muriau oddi mewn yn wyngalchog hefyd. Yn anffodus nid yw'r Grog (sgrîn) ganoloesol yno erbyn heddiw. Mae Ffynnon y Grog gerllaw yr eglwys.
Mae'r eglwys a'r traeth fel ei gilydd yn cael eu gwarchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ceir cyfoeth o fywyd gwyllt yn yr ardal ac mae'n gartref yn yr haf i nifer o ddolffinau, morloi a llamhidyddion.
Ers 30 mlynedd mae'r gwleidydd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn arfer mynd i Fwnt am ei wyliau: Mae pawb angen gwyliau, meddai, a dyma le delfrydol.
[golygu] Ffynnonellau
- T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llandybie, 1952). Tud. 107-8.