Swyddffynnon
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yng nghanolbarth Ceredigion yw Swyddffynnon. Saif tua 5 milltir i'r gogledd o Dregaron, milltir i'r de o Ystrad Meurig a thua 2 filltir a hanner i'r gorllewin o Bontrhydfendigaid. Rhed afon Teifi heibio i'r pentref.
Ceir Capel y Bedyddwyr yn y pentref, sydd ymhlith yr hynaf yn y sir.
Bu gan y pentref ysgol gynradd ffyniannus - Ysgol Gymunedol Swyddffynnon - a agorwyd yn 1896 ond a gaewyd yn 2006.