Tre Taliesin
Oddi ar Wicipedia
- Mae hon yn erthygl am y pentref Tre Taliesin. Am enghreifftiau eraill o'r enw Taliesin gweler Taliesin (gwahaniaethu).
Pentref yn ardal Genau'r Glyn, gogledd Ceredigion, yw Tre Taliesin. Lleolir y pentref ar y briffordd A487, tua hanner ffordd rhwng Machynlleth i'r gogledd-ddwyrain ac Aberystwyth i'r de. Y pentrefi agosaf yw Tal-y-bont i'r de a phentref bychan Llangynfelyn, hanner milltir i'r gorllewin. Mae Tre Taliesin ei hun yn rhan o blwyf a chymuned Llangynfelyn.
Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â'r Taliesin chwedlonol; yn Hanes Taliesin mae Elffin ap Gwyddno yn ei ddarganfod yn hongian mewn basged yng nghored Gwyddno, i'r gogledd-orllewin o Dre Taliesin rhywle rhwng Y Borth ac Aberdyfi. Yn y bryniau tua milltir i'r dwyrain ceir cromlech gynhanesyddol a adnabyddir fel Bedd Taliesin.
I'r gorllewin o Dre Taliesin, ar ôl Llangynfelyn, ceir corsdir eang Cors Fochno, sydd â lle amlwg yn y canu darogan Cymraeg ac sy'n gysylltiedig â chwedlau llên gwerin diddorol.
Brodor o'r ardal oedd y llenor ac arbenigwr llên gwerin Evan Isaac. Mae ei gyfrol Yr Hen Gyrnol a brasluniau eraill (1934) yn cynnwys ysgrifau am rai o hen gymeriadau'r ardal ar ddiwedd y 19eg ganrif.