Llangoedmor
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Ceredigion yw Llangoedmor. Saif y pentref 1 filltir i'r dwyrain o dref Aberteifi ar y lôn B4570 ar lan ffrwd fechan sy'n llifo i aber Afon Teifi gerllaw.
Sant Cynllo yw nawddsant yr eglwys. Atgyweirwyd yr hen eglwys yn sylweddol yn 1860. Er mai pentref bychan yw Llangoedmor heddiw, ar un adeg roedd gan ei chlas awdurdod dros ardal ehangach, yn cynnwys Aberteifi, Mwnt a Llechryd.
Ceir Ffynnon Cynllo yn y plwyf, enwog am iachau'r crudcymalau, yn ogystal â 'Cerwyni Cynllo' ar lan Afon Teifi; ogofâu â'r dŵr yn "berwi" ynddynt. Ceir gwaith amddiffyn o bridd a elwir Cynllo Faes.
Ceir llawer o straeon am fywyd mân-fonheddwyr Cymreig Plas Llangoedmor yn llyfr H. M. Vaughan The South Wales Squires (llyfr a gafodd ddylanwad mawr ar Saunders Lewis).
[golygu] Ffynhonnell
- T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)
- T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1953)