Saunders Lewis
Oddi ar Wicipedia
Dramodydd, bardd, nofelydd, ysgolhaig, beirniad llenyddol a gwleidydd oedd John Saunders Lewis (15 Hydref, 1893 - 1 Medi, 1985). Cafodd ei eni yn Wallasey, ger Lerpwl, yn fab i weinidog. Mynychodd brifysgol Lerpwl. Roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru. Bu ei ddarlith radio enwog Tynged yr Iaith, a draddodwyd yn 1962, yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ond fel dramodydd y cydnabyddir ef fwyaf.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Ei yrfa
Yn 1936 llosgodd Saunders, ynghyd â D. J. Williams a Lewis Valentine, adeiladau yr ysgol fomio ym Mhenyberth ac o ganlyniad collodd ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe.
Yn fab i Fethodist fe ymunodd â 'r Eglwys Babyddol yn 1932.
Roedd yn gredwr cryf yn y traddodiad Ewropeaidd, ac yn gweld dylanwad Lloegr yn rhwystr i Gymru ddeall y traddodiad hwnnw. Dau ddylanwad mawr arno oedd Emrys ap Iwan a W.B. Yeats.
Yn 1957 ymddeolodd i'w gartref ym Mhenarth, ger Caerdydd ac ymroddai i ysgrifennu ar gyflwr politicaidd ac ieithyddol Cymru. Yn 1962 cyhoeddodd Tynged yr Iaith, Darlith Radio BBC Cymru ar gyfer y flwyddyn honno: y canlyniad fu sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe enwebwyd Saunders Lewis am wobr lenyddol Nobel yn 1971.
[golygu] Ei waith llenyddol
Mae'n debyg mai ei ddramau mwyaf yw Blodeuwedd, sy'n ymwneud â'r gwrthdaro rhwng cariad a chwant, a Siwan. Yn ei nofelau Monica a Merch Gwern Hywel, yn ogystal ag yn Siwan, mae cytundeb priodasol yn holl bwysig ac yn hanfodol er lles cymdeithas.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Barddoniaeth
Casglwyd ei gerddi ynghyd yn y gyfrol Cerddi Saunders Lewis (gol. R. Geraint Gruffydd).
[golygu] Nofelau
[golygu] Dramâu
- The Eve of St. John (1921)
- Gwaed yr Uchelwyr (1922)
- Buchedd Garmon (1937)
- Amlyn ac Amig (1940)
- Blodeuwedd (1948)
- Eisteffod Bodran (1952)
- Gan Bwyll (1952)
- Siwan (1956)
- Gymerwch Chi Sigaret? (1956)
- Brad (1958)
- Esther (1960)
- Serch yw'r Doctor (1960)
- Yn y Trên (yn y cylchgrawn Barn, 1965)
- Cymru Fydd (1967)
- Problemau Prifysgol (1968)
- Branwen (1975)
- Dwy Briodas Ann (1975)
- Cell y Grog (yn y cylchgrawn Taliesin, 1975)
- Excelsior (1980)
Casglwyd ei holl ddramâu ynghyd yn y ddwy gyfrol, Dramâu Saunders Lewis, dan olygyddiaeth Ioan Williams.
[golygu] Beirniadaeth Lenyddol
- A School of Welsh Augustans (1924)
- Ysgrifau Dydd Mercher
- Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1931)
- Meistri'r Canrifoedd (gol. R. Geraint Gruffydd; casgliad)
- Meistri a'u Crefft (gol. Gwynn ap Gwilym; casgliad)
[golygu] Ysgrifau Gwleidyddol
- Canlyn Arthur
- Ati, Wŷr Ifainc
- Tynged yr Iaith
[golygu] Darllen pellach
- Dafydd Jenkins, Tân yn Llŷn (hanes Penyberth)
- Presenting Saunders Lewis (gol. Alun R. Jones & Gwyn Thomas)
- Annwyl Kate, Annwyl Saunders (gol. Dafydd Ifans; llythyraeth Saunders â Kate Roberts)