See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
D. J. Williams - Wicipedia

D. J. Williams

Oddi ar Wicipedia

D. J. Williams, tua 1936
D. J. Williams, tua 1936

Roedd David John Williams (26 Mehefin 1885- 4 Ionawr 1970), neu D.J. Williams neu D.J. Abergwaun, yn llenor ac yn genedlaetholwr a aned yn Rhydcymerau, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn gymeriad mawr er yn ddyn tawel ei hunan, a wnaeth gyfraniad pwysig i lên a diwylliant ei wlad; "Y Cawr o Rydcymerau".

Bu'n athro yn Abergwaun am flynyddoedd lawer ac felly fe gyfeirid ato yn aml fel 'D.J. Abergwaun'.

Taflen Cynnwys

[golygu] Y llenor

Ysgrifenodd ddau hunangofiant wedi eu lleoli yn ardal Rhydcymerau, sef Hen Dŷ Fferm (1953) ac Yn Chwech ar Hugain Oed (1959). Roedd yn feistr ar y stori fer yn ogystal, fel y mae ei dair cyfrol gynnar, Storïau'r Tir (1936, 1941, 1949) yn dangos. Ystyrir ei gyfrol o bortreadau o rai o hen gymeriadau ei fro enedigol, Hen Wynebau, yn glasur o'i fath.

[golygu] Y gwladgarwr

Roedd yn genedlaetholwr brwd. Yn aelod o'r ILP cyn sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru (sef Plaid Cymru heddiw) yn 1925. Roedd D.J., ynghyd â Saunders Lewis a Lewis Valentine, yn gyfrifol am losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Methodd y rheithgor a chytuno a oeddent yn euog yn llys y Goron yng Nghaernarfon, ac o ganlyniad bu ail achos yn eu herbyn yn yr Old Bailey pan y'i cafwyd yn euog ac fe'u carcharwyd.

Roedd cyflwr ariannol Plaid Cymru yng nghanol y 1960au yn echrydus ac mae'n amheus a fyddai wedi gallu ymladd Etholiad Cyffredinol 1966 oni bai i D.J. werthu Penrhiw sef yr Hen Dŷ Ffarm yn ei gyfrol adanbyddus, a rhoi'r arian i Blaid Cymru.

[golygu] Llyfryddiaeth

[golygu] Gwaith D.J.

  • Hen Wynebau (1934)
  • Storïau'r Tir Glas (1936)
  • Storïau'r Tir Coch (1941)
  • Storïau'r Tir Du (1949)
  • Hen Dŷ Ffarm (1953)
  • Mazzini (1954)
  • Yn Chwech ar Hugain Oed (1959)
  • Codi'r Faner (1968)
  • Y Gaseg Ddu (1970). Gol. J. Gwyn Griffiths.
  • Y Cawr o Rydcymerau (1970). Casgliad o'i gerddi, gol. D.H. Culpitt a W. Leslie Richards.

[golygu] Astudiaethau a llyfrau eraill

Ceir llyfryddiaeth lawn yn atodiad i'r gyfrol Y Gaseg Ddu.

  • Dafydd Jenkins, D.J. Williams (cyfres Writers of Wales, 1973)
  • Emyr Hywel (gol.), Annwyl D.J. Llythyrau D.J., Saunders a Kate (Y Lolfa, 2008). Gohebiaeth D.J., Saunders Lewis a Kate Roberts.
Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -