Abergwaun
Oddi ar Wicipedia
Abergwaun Sir Benfro |
|
Tref arfordirol yng ngogledd Sir Benfro ar Fae Ceredigion yw Abergwaun (Saesneg: Fishguard). Yma y mae priffordd yr A40 o Lundain a'r rheilffordd yn terfynu. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd i Rosslare (Iwerddon) o Wdig, milltir i'r gogledd-orllewin o Abergwaun. Llifa Afon Gwaun i'r môr yn y dref gan roi iddi ei henw.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
[golygu] Enwogion
- D.J. Williams - bu'r llenor adnabyddus, awdur Hen Dŷ Ffarm, yn athro yn Ysgol Ramadeg Abergwaun nes iddo ymddeol yn 1945.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Abergwaun ym 1936 a 1986. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergwaun 1936
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergwaun 1986
[golygu] Y Gymraeg
Mae swyddfa Menter Iaith Sir Benfro yn Abergwaun. Mae yna gangen Cyd yn Abergwaun, sy'n cwrdd yn y Dderwen Frenhinol yn y dref. Mae llawer o ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn Abergwaun a'r cyffiniau.