Breudeth
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ger arfordir gorllewinol Sir Benfro yw Breudeth (Saesneg: Brawdy).
Mae'n gorwedd ar Fae Sain Ffraid. Dyddia'r eglwys, a gysegrwyd i Dewi Sant, o'r 12fed ganrif yn wreiddiol. Ceir pedair carreg gydag arysgrifau yn dyddio o'r 6ed ganrif tu mewn iddi.
Mae'r gymuned yn cynnwys maes awyr y Llu Awyr Brenhinol, a phentrefi Llan-lwy a Trefgarn Owen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 611.