Dinas, Sir Benfro
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned ger arfordir Sir Benfro yw Dinas, Saesneg: Dinas Cross.
Saif i'r gogledd ddwyrain o Abergwaun ac mae'n cynnwys Ynys Dinas, sy'n fagwrfa bwysig i forloi ac adar môr, er nad yw'n ynys yng ngwir ystyr y gair. Cofnodir i eglwys Dinas gael ei dinistrio gan y Llychlynwyr, a dinistriwyd yr eglwys newydd, a safai yng Nghwmyreglwys, gan storm fawr 1859. Codwyd eglwys arall yn 1861; mae wedi ei chysegru i Sant Brynach.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 798.