Angle
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn ne-orllewin Sir Benfro yw Angle. Mae yn y rhanbarth Saesneg ei iaith o'r sir, ac nid ymddengys bod enw Cymraeg. Saif ar ochr ddeheuol Afon Cleddau, gyferbyn ag Aberdaugleddau ac i'r gorllewin o dref Doc Penfro.
Ceir gorsaf bad achub yma, dwy dafarn, ysgol gynradd, swyddfa'r post ac eglwys, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio'r pentref.