Llanbedr Efelffre
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Sir Benfro yw Llanbedr Efelffre (Saesneg: Lampeter Velfrey). Saif ar ffordd gefn tua hanner y ffordd rhwng Arberth a Hendy-gwyn ar Daf, ac ychydig i'r de o Afon Marlais.
Ganed y clerigwr Methodistaidd David Griffiths (1756 - 1834) yn y Felinwlân yma.