Trefdraeth (Sir Benfro)
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yng ngogledd Sir Benfro yw Trefdraeth. Mae'n wynebu Bae Ceredigion i'r gogledd-orllewin. Rhed Afon Nyfer i'r môr yn agos i'r pentref.
Ger y pentref mae cromlech Carreg Coetan Arthur. Gellir cyrraedd bryngaer Carn Ingli o'r pentref yn ogystal.