Porth-gain
Oddi ar Wicipedia
Pentref a phorthladd bychan yn ngogledd Sir Benfro yw Porth-gain neu Porthgain. Saif yng nghymuned Llanrhian, i'r gorllewin-ddwyrain o ddinas Tyddewi ac i'r gogledd o'r briffordd A487 i Abergwaun.
Ar un adeg roedd Porth-gain yn borthladd bychan o gryn bwysigrwydd. Gellir gweld yr adeiladau oedd yn cael eu defnyddio i gadw gwenithfaen wedi ei falu yn barod i'w allforio. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yn yr ardal, gyda chwareli yn Abereiddi, Porth-gain a Thrwyn Llwyd, ac allforid y llechi o Borth-gain. Roedd y porthladd yn medru derbyn ugain o longau y dydd, ond caeodd yn 1931.
Erbyn hyn mae'n ganolfan boblogaidd i dwristiaid, a defnyddir yr harbwr yn bennaf ar gyfer cychod pleser, er bod nifer o bysgotwyr yn parhau i'w defnyddio hefyd. Aiff Llwybr Arfordir Sir Benfro heibio'r pentref.