Clunderwen
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Clunderwen, weithiau Clynderwen yn Saesneg. Saif ar y briffordd A478 rhwng Arberth a phentref Crymych, ychydig i'r gogledd o Arberth.
Dechreuodd y pentref fel gorsaf ar Reilffordd Gorllewin Cymru yn y 19eg ganrif. Tyfodd y pentref presennol o gwmpas yr orsaf. Arferai Clunderwen fod yn Sir Gaerfyrddin, ond yn 2001 daeth yn rhan o Sir Benfro.