Casnewydd Bach
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng nghymuned Cas-mael yn Sir Benfro yw Casnewydd Bach neu Castell-newydd Bach, Saesneg: Little Newcastle. Saif i'r dwyrain o'r briffordd A40 rhwng Abergwaun a Hwlffordd, i'r gogledd-ddwyrain o bentref Casblaidd.
Daeth y pentref yn adnabyddus fel man geni y morleidr adnabyddus Bartholomew Roberts ("Barti Ddu"). Ceir cofeb iddo yn y pentref.