Trecŵn
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Trecŵn. Saif i'r de o dref Abergwaun ac i'r dwyrain o'r briffordd A40.
Ffurfiwyd y gymuned o blwyfi sifil Llanfair Nant-y-gof a Llanstinan. Arferai John Wesley aros ym mhlasdy Trecŵn; yn ddiweddarach gwerthwyd y plasdy i'r Llynges a daeth yn safle ffatri a storfa arfau, gyda rhwydwaith o dwneli tanddaearol. Caewyd y ffatri yn 1995; mae'r plasdy yn awr wedi ei ddymchwel.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 359.