Cwm yr Eglwys
Oddi ar Wicipedia
Mae Cwm yr Eglwys yn bentref bychan ar gilfach môr hardd ar ochr ogleddol penrhyn Ynys y Ddinas, rhwng Abergwaun a phentref Trefdraeth, yng ngogledd Sir Benfro, de-orllewin Cymru. Mae'n gorwedd ym Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg heibio i'r pentref.
Mae gan y pentref harbwr yng nghysgod y creigiau ar lan Bae Trefdraeth, sy'n rhan o Fae Ceredigion. Mae'r traeth bychan yn braf a phoblogaidd gan ymwelwyr.
[golygu] Eglwys Sant Brynach
Prif atyniad y pentref yw adfeilion Eglwys Sant Brynach. Credir i'r eglwys gael ei sefydlu tua'r 6ed ganrif gan Sant Brynach, aelod o deulu brenhinol Brycheiniog. Yn ôl traddodiad roedd y sant yn arfer mynd i ben Carn Ingli ger llaw i siarad â'r angylion. Mae'n bosibl mai clas oedd yno i ddechrau. Codwyd eglwys newydd ar y safle yn y 12fed ganrif, ar batrwm Celtaidd. Yn anffodus dim ond rhan o'r clochdy a'r mur orllewinol a oroesoedd storm enbyd a drawodd ar 25 Hydref, 1859; yr un storm a suddodd y Royal Charter, ger Moelfre, Môn, a 113 llong arall ar hyd arfordir Cymru y noson honno.
[golygu] Ffynhonnell
- Christopher John Wright, A Guide to the Pembrokeshire Coast Path (Constable, 1988)