Llandyfái
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw Llandyfái (Saesneg: Lamphey). Saif ychydig i'r dwyrain o dref Penfro ay y briffordd A4075.
Ceir yma weddillion "Plas yr Esgob", oedd yn cael ei ddefnyddio gan esgobion Tyddewi. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a welir yn awr yn waith Henry de Gower, esgob Tyddewi o 1328 hyd 1347.
Mae gan Landyfai orsaf reilffordd, ar gangen Doc Penfro o Reilffordd Gorllewin Cymru, dau westy, tafarn ac ysgol gynradd. Adeiladwyd Neuadd Gymunedol newydd yn 2007.
Yn 2001 roedd 12.9% o boblogaeth y gymuned yn medru Cymraeg.