Llanstadwel
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Llanstadwel. Saif ger yr arfordir, rhwng Neyland ac Aberdaugleddau.
Heblaw Llanstadwel ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref Waterston. Bu purfa olew fawr yn perthyn i Gulf gerllaw Waterston, ond caewyd hi yn 1997. Mae Caer Scoveston, a adeiladwyd rhwng 1861 a 1868, yn un o ffoleddau Palmerston. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 904.