Mathri
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwyf a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Benfro yw Mathri (Saesneg: Mathry). Saif heb fod ymhell o'r arfordir, ger y briffordd A487 i'r de-orllewin o dref Abergwaun.
Dengys cofnodion i ferch o'r enw Jemima Nicholas gael ei geni ym mhlwyf Mathri ar 2 Mawrth 1755; mae'n bosibl ei bod yr un person a Jemima Nicholas, arwres y digwyddiadau o gwmpas glaniad y Ffrancod ger Abergwaun.
Mae cymuned Mathri hefyd yn cynnwys pentrefi Casmorys ac Abercastell. Saif tua chwarter arwynebedd y gymuned o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.