Treamlod
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwyf a chymuned yn Sir Benfro yw Treamlod (Saesneg: Ambleston). Saif yng nghanolbarth y sir, 11 milltir i'r gogledd o dref Hwlffordd ac i'r dwyrain o'r briffordd A40. Credir fod yr enw yn deillio o dir oedd yn eiddo i ryw "Amelot", enw Hen Ffrangeg. Ail-adeiladwyd Eglwys y Santes Fair yn 1906, ond mae'r tŵr o'r 12fed ganrif.
Heblaw Treamlod ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys penrefi Wstog a Wallis. Mae Capel Wstog yn nodedig am mai yma, yn 1755, y cynhaliwyd gwasanaeth cymun am y tro cyntaf yn un o gapeli'r Wesleaid yng Nghymru. Y ffîn ogleddol yw hen drac sy'n arwain tua Tyddewi; arferai fod yn ffin ogleddol cantref Daugleddau, a dywed George Owen yn 1602 mai yma yr oedd ffin ieithyddol Sir Benfro. Dywed ef fod Treamlod yn ddwyieithog.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 367.