Treletert
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn Sir Benfro yw Treletert (Saesneg: Letterston). Saif ar y ffordd B4331 fymryn i'r gorllewin o'r briffordd A40 rhwng Abergwaun a Hwlffordd.
Credir i'r pentref gael ei enw oddi wrth Letard Litelking, un o Ffleminiaid Penfro, a laddwyd gan Anarawd ap Gruffudd mewn ymgyrch yn 1137.