Freystrop
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Freystrop. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r de o dref Hwlffordd fymryn i'r gorllewin o lan Afon Cleddau Wen.
Dyddia'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Stinan, o'r 14eg ganrif, ond fe'i hail-adeiladwyd yn 1874. O fewn y gymuned mae olion y lein bach a ddefnyddid i gludo glo carreg o lofa New Hook i'w allforio o Hook Quay.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 474.