Llanhuadain
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan yn ne-ddwyrain Sir Benfro yw Llanhuadain (Saesneg: Llawhaden). Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Hwlffordd i'r gorllewin a Hendy-gwyn i'r dwyrain.
Mae'r pentref yn adnabyddus yn bennaf fel safle adfeilion Castell Llanhuadain, a godwyd gan y Normaniaid. Llanhuadain oedd canolfan eglwysig a gweinyddol cwmwd Llanhuadain, un o ddau gwmwd cantref Daugleddau yn yr Oesoedd Canol.
Cipiwyd a meddianwyd y castell gan yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth a'u meibion ar ddechrau'r 1190au.