Martletwy
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw Martletwy. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r dwyrain o Afon Cleddau, tua hanner y ffordd rhwng Hwlffordd a Dinbych y Pysgod. Ail-adeiladwyd yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Marchell, yn 1848-1850.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Landshipping a Lawrenny, ac yn ymestyn at lan Afon Cleddau. Ar un adeg, bu mwyngloddio ac allforio glo carreg yn weddol bwysig yn yr ardal. Ceir canolfan ymwelwyr Oakwood, gyda reidiau ac atyniadau eraill, o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 523 yn 2001.