Tiers Cross
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Tiers Cross. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif ar ffordd gefn rhwng Hwlffordd ac Aberdaugleddau, ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A4076.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Dreenhill a Thornton. Saif yn y rhan y mae Gwyddoniadur Cymru yn ei ddisgrifio fel y "rhan leiaf diddorol o Sir Benfro". Bu David Lloyd George yn byw yn ffermdy Bulford am ychydig dros flwyddyn pan oedd yn ieuanc. Roedd poblogaeth y gymuned yn 471 yn 2001.