Castell Gwalchmai
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Castell Gwalchmai (Saesneg: Walwyn's Castle). Saif i'r gogledd-orllewin o dref Aberdaugleddau. Ar un adeg roedd yn farwniaeth Normanaidd yn ddibynnol ar arglwyddiaeth Penfro. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn un o ganolfannau lleyg pwysicaf cantref Rhos.
Heblaw Castell Gwalchmai ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Hasguard a Roberston West. Yn 2001 roedd poblogaeth y gymuned yn 304.
Cred rhai ysgolheigion mai Gwalchmai ap Gwyar yw'r Gwalchmai sy'n cael ei goffhau yn yr enw.