Llandysilio (Sir Benfro)
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Llandysilio, weithiau Llandisilio neu Llandissilio. Saif ar y briffordd A478 rhwng Arberth a Crymych, ac ychydig i'r gogledd o bentref Clunderwen.
Ceir carreg o'r 5ed ganrif yn eglwys Sant Tysilio, yn coffhau gŵr o'r enw Clutorix (Clodri). Mae'r cerflunydd Gideon Petersen yn byw yma.
Yn ôl yr hynafiaethydd George Owen, ar ddechrau'r 16eg ganrif roedd ffin ieithyddol Sir Benfro, neu'r llinell Landsker, yn rhedeg trwy Llandysilio.