Y Mot
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn nwyrain Sir Benfro yw Y Mot (Saesneg: New Moat). Saif i'r de o Fynydd Preseli a gerllaw'r ffîn a Sir Gaerfyrddin. Daw'r enw o weddillion castell mwnt a beili gerllaw'r pentref.
Heblaw pentref Y Mot ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llys-y-frân, Penffordd a Threfelen, ac mae Cronfa ddŵr Llys-y-frân hefyd o'i mewn. Rhed ffin ieithyddol Sir Benfro trwy'r gymuned; mae'r enwau lleoedd yn y gogledd yn Gymraeg ac yn y de yn Saesneg. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 426.