Dale
Oddi ar Wicipedia
Pentref ar arfordir Sir Benfro yw Dale, i'r gogledd-orllewin o Aberdaugleddau. Saif yn y rhan Saesneg o Sir Benfro, ac nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Daw'r enw "Dale" o'r Hen Norwyeg Dalr ("dyffryn"). Gerllaw mae Llwybr Arfordir Sir Benfro.
Ceir caer o'r cyfnod Fictoraidd yn y pentref, sy'n awr yn ganolfan astudiaethau maes bioleg y môr, daeareg a phynciau tebyg. Effeithiwyd ar yr ardal pan gollwyd 72,000 tunnell o olew i'r môr wedi i'r llong Sea Empress fynd ar y creigiau gerllaw ar 15 Chwefror 1996.
Gerllaw Dale, ym Mill Bay, y glaniodd Harri Tudur yn 1485 i ddechrau'r ymgyrch a arweiniodd at fuddugoliaeth Brwydr Bosworth a'i goroni fel Harri VII.