Brwydr Bosworth
Oddi ar Wicipedia
Brwydr Bosworth neu Frwydr Maes Bosworth oedd y frwydr olaf yn Rhyfeloedd y Rhosynnau a ymladdwyd ar 22 Awst, 1485.
Roedd Harri Tudur wedi glanio yn Sir Benfro ar 7 Awst gyda byddin fechan o Lancastriaid a Ffrancwyr, efallai tua 2,000 i gyd. Teithiodd tua'r gogledd-ddwyrain yn hytrach na'n uniongyrchol tua'r dwyrain, ac yn ardal Cefn Digoll ger Y Trallwng ymunodd nifer sylweddol o Gymry â'i fyddin: llu o dde-orllewin Cymru dan Rhys ap Thomas, gwŷr Gwent a Morgannwg dan yr Herbertiaid a gwŷr o ogledd Cymru dan William Griffith o'r Penrhyn. Erbyn hyn roedd ganddo fyddin o tua 5,000.
Roedd gan y brenin Rhisiart III o Loegr fyddin gryn tipyn yn fwy, ond roedd amheuaeth ynghylch teyrngarwch llawer ohonynt. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar safle gerllaw Sutton Cheney a Market Bosworth yn Swydd Gaerlŷr yng nghanolbarth Lloegr, ond mae dadl ynglŷn â'r union leoliad. Roedd tua 6,000 o wŷr dan Arglwydd Stanley a'i frawd, ac wedi iddynt wrthod ymuno a'r frwydr ar y dechrau, ymosodasant i gefnogi Harri Tudur. Lladdwyd Richard, a daeth Harri Tudur yn frenin fel Harri VII.
Awst 7 – Glaniodd Harri yn Dale, ger Hwlffordd Awst 7-15 – Gorymdeithiodd trwy Gymru yn casglu mwy o ddynion Awst 21 – Cyrhaeddod Bosworth, ger Caerlyr Awst 22 – Brwydr Bosworth
[golygu] Llyfryddiaeth
- Emyr Wyn Jones, Bosworth Field: A Welsh Perspective (1984)
- A.L. Rowse, Bosworth Field and the Wars of the Roses (1966)