Llanrhian
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwyf a chymuned yng ngogledd Sir Benfro yw Llanrhian. Saif i'r gorllewin-ddwyrain o ddinas Tyddewi, i'r gogledd o'r briffordd A487 i Abergwaun.
Dyddia tŵr yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Rhian, o'r 13eg ganrif. Mae tîm criced Llanrhian yn adnabyddus, ac wedi cael llwyddiant eithriadol i dîm o bentref mor fychan.
Heblaw pentref Llanrhian ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys Trefin a Phorth-gain. Ar un adeg roedd y diwydiant llechi yn bwysig yn yr ardal, gyda chwareli yn Abereiddi, Porth-gain a Thrwyn Llwyd. Allforid y llechi o borthladd bychan Porth-gain.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 897.