Spittal
Oddi ar Wicipedia
Penref, plwyf a chymuned yn Sir Benfro yw Spittal. Saif tua hanner y ffordd rhwng hwlffordd ac Abergwaun.
Cafodd y pentref ei enw o'r hospitium, neu fan i bererinion gael llety, oedd yn eiddo i Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ceir y cyfeiriad cynharaf ato yn 1259. Ail-adeiladwyd Eglwys y Santes Fair yma yn y 19eg ganrif; o'i mewn ceir maen ag arysgrif arni o'r 5ed neu'r 6ed ganrif. Adeiladwyd ysgol gynradd newydd yma yn 2004; ceir hefyd swyddfa'r post, neuadd a thafarn.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 501.