Tredeml
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Tredeml (Saesneg: Templeton). Saif i'r de o dref Arberth ger y briffordd A478.
Credir fod yr enw yn deillio o dir neu sefydliad yn perthyn i Urdd y Temlyddion. Roedd gan urdd Marchogion Sant Ioan gomawndri yn Slebets; yr unig un yng Nghymru, a gwyddir i ran o eiddo'r Temlyddion gael ei drosglwyddo iddynt hwy. Ceir cyfeiriad at y lle yn 1282 fel Villa temparila'r flwyddyn wedyn fel Villa Templarorium Campestris. Mae cynllun y pentref heddiw yn un o'r esiamplau gorau o gynllunio o'r canol oesoedd sydd wedi goroesi yng Nghymru.