Marloes
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan ar arfordir gorllewinol Sir Benfro ar lan Bae Sain Ffraid yw Marloes. Cyfeirir at y penrhyn y saif arno fel 'Penrhyn Marloes' yn ogystal. Mae'n gymuned wasgaredig tua 8 milltir i'r gorllewin o Aberdaugleddau.
Mae Marloes yn adnabyddus am ei draeth ardderchog a leolir milltir i'r gogledd o'r pentref ar Fae Sain Ffraid. Mae'r clogwynni hen dywodfaen coch yn enwog ym myd daeareg fel enghreifftiau gwych o'r graig honno.
Gyferbyn i ben y penrhyn mae Ynys Skomer a'i bywyd gwyllt. I'r de o Farloes mae pentref Dale a Bae Westdale. Glaniodd Harri Tudur ym Mill Bay yn 1487 ac oddi yno deithiodd drwy Gymru i Faes Bosworth.