Cas-wis
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Cas-wis (Saesneg: Wiston). Saif i'r dwyrain o dref Hwlffordd ac i'r gogledd o'r briffordd A40.
Ceir gweddillion castell mwnt a beili yma a godwyd gan un o Fflemingiaid de Sir Benfro o'r enw Wizo cyn 1130, wedi iddo gipio rhannau halaeth o gantref Daugleddau. Dinistriwyd y castell gan Llywelyn Fawr yn 1220, ond ail-adeiladwyd ef. Hyd at 1918, roedd Cas-wis yn un o fwrdeisdrefi etholiadol Sir Benfro.
Heblaw Cas-wis ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Clarbeston, Clarbeston Road a Waltwn. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 848.