See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Castell mwnt a beili - Wicipedia

Castell mwnt a beili

Oddi ar Wicipedia

Model o gastell mwnt a beili
Model o gastell mwnt a beili
Castell mwnt a beili ger Biggar, Lloegr
Castell mwnt a beili ger Biggar, Lloegr

Castell o domen o bridd gyda amddiffynfa bren arno yw castell mwnt a beili (hefyd castell tomen a beili). Mae'n dull o adeiladu amddiffynfa a ddaeth i'r wlad yn ail hanner yr 11eg ganrif gyda dyfodiad y Normaniaid. Ceir rhai cannoedd o enghreifftiau o gestyll mwnt a beili yng Nghymru, Lloegr, de'r Alban a rhannau o Iwerddon. Maen hw'n arbennig o niferus ar hyd y Gororau neu'r Mers, cadarnle'r barwniaid Normanaidd rhwng Cymru a Lloegr. Tyfodd rhai ohonyn nhw i fod yn gestyll cerrig mawr tra arosai eraill yn domenydd pridd ar ôl cael eu defnyddio dros dro. Yng Nghymru mabwysiadwyd y dull newydd gan rhai o'r tywysogion Cymreig am gyfnod. Yr enw Cymraeg Canol am y math yma o gastell oedd tomen ('tump' ar y Gororau).

[golygu] Adeiladwaith

Prif bwrpas cestyll mwnt a beili oedd i gysgodi grwpiau bychain o farchogion a saethwyr (yr uned filwrol Normanaidd arferol) yn ystod y Goresgyniad Normanaidd. Roedd angen amddiffynfa hawdd i'w chodi. Fel rheol mae'r castell yn domen bridd (mwnt, mount) gron neu hirgron â phen gwastad gyda ffos o'i chwmpas. Weithiau byddai'r adeiladwyr yn manteisio ar nodwedd naturiol fel codiad tir. Yn gysylltiedig â'r mwnt roedd yn arferol - gyda ychydig iawn o eithriadau - godi amddiffynfa bren syml, palisâd o bren yn amgae darn o dir uchel. Dyma'r beili. Byddai hyn yn cael ei godi naill ai ar ben y mwnt neu yn ei chyffwrdd. O fewn y tir o fewn y palisâd roedd yr amddiffynwyr yn codi tŵr pren syml; byddai'r dynion yn cysgodi yn y tŵr a'r meirch yn y tir o fewn y palisâd.

[golygu] Rhai enghreifftiau


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -