Web Analytics

We provide Linux to the World

ON AMAZON:



https://www.amazon.com/Voice-Desert-Valerio-Stefano-ebook/dp/B0CJLZ2QY5/



https://www.amazon.it/dp/B0CT9YL557

We support WINRAR [What is this] - [Download .exe file(s) for Windows]

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
SITEMAP
Audiobooks by Valerio Di Stefano: Single Download - Complete Download [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Alphabetical Download  [TAR] [WIM] [ZIP] [RAR] - Download Instructions

Make a donation: IBAN: IT36M0708677020000000008016 - BIC/SWIFT:  ICRAITRRU60 - VALERIO DI STEFANO or
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Castell - Wicipedia

Castell

Oddi ar Wicipedia

Mae Castell (benthyciad o'r Lladin castellum; Llydaweg Canol castell, Gwyddeleg Canol caisel. Lluosog Cestyll.) yn adeilad sydd wedi'i amddiffyn yn gryf. Math arbennig o amddiffynfa a ddatblygwyd yn yr Oesoedd Canol yw castell, ond mae ei gynseiliau'n gorffwys yng nghyfnod pobl fel y Celtiaid yn Oes yr Haearn a godai fryngaerau niferus, a'r Rhufeiniaid a godai gaerau ledled Ewrop a'r Môr Canoldir. Ceir traddodiad o godi cestyll mewn nifer o wledydd eraill hefyd, e.e. yn Tsieina a Siapan.

[golygu] Datblygiad cestyll yn Ewrop yr Oesoedd Canol

Castell mwnt a beili Normanaidd (model)
Castell mwnt a beili Normanaidd (model)
Castell Będzin, Gwlad Pwyl
Castell Będzin, Gwlad Pwyl

Dros y canrifoedd newidiodd y cestyll o wneuthuriad pren i gestyll cerrig, ac yn ddiweddarach, o fod yn amddiffynfa i fod yn blas neu gartref. Bellach mae nhw wedi newid o fod yn adeiladau milwrol i fod yn henebion ac yn atyniadau twristaidd.

Ceir gwahanol fathau o gestyll wrth gwrs, megis Cestyll y Normaniaid a'r Cestyll Cymreig. Llefydd milwrol ac amddiffynfeydd oedd cestyll yn yr Oesoedd Canol, yn aml ar dir uchel gyda muriau trwchus a thyredau uchel, ac yn aml hefyd rhagfuriau a ffos o gwmpas. Byddai'r ffenestri yn gul a'r drysau yn drymion. Roedd y castell yn rheolir dref hefyd yn aml, gyda mur o gwmpas y dref yn ogystal a barbican, hefyd. I fynd i mewn i'r castell, yr oedd rhaid mynd dros bont godi a thrwy borthdy cryf â chlwydi a phorthcwlis. Roedd donjon (carchar dan ddaear) mewn llawer o'r cestyll. Weithiau byddai'r castell dan warchae am gyfnod hir a byddai rhaid ildio oherwydd diffyg bwyd.

Roedd y castell yn lle i drigo yn ogystal â bod yn amddiffynfa. Roedd ward fewnol, llety, ystafelloedd byw ac siambrau cysgu, rhai ohonyn nhw'n gyfforddus iawn, cegin, bwtri i gadw gwin neu gwrw, canolfan weinyddol a chapel. Roedd stablau i'r meirch ac ysguborau i gadw bwyd iddynt. Ond y peth pwysicaf i gyd oedd ffynnon neu ffynhonnell dŵr arall i gadw'r amddiffynwyr yn fyw adeg gwarchae. Gwarchae oedd un o'r bygythiadau gwaethaf i gastell a dyna pam yr oeddent yn ceisio bod mor hunangynhaliol â phosibl.

Roedd hi'n anodd i godi'r cestyll hyn weithiau am eu bod yn aml yn cael eu codi ar dir estron. Yn achos y cestyll Seisnig yng Nghymru yr oedd rhaid cael gweithwyr a chrefftwyr o Loegr neu gyfandir Ewrop ac fe'i gorfodid i adael eu cartrefi i weithio yng Nghymru, efallai am flynyddoedd.

Yr oedd rhaid codi llawer o arian i godi'r cestyll hefyd. Y goruchwylwyr oedd yn gofalu am yr ochr ariannol ac yn talu'r gweithwyr. Y pensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r castell a dewis safle i'w adeiladu. Y nesaf at y pensaer mewn pwysicrwydd oedd y saer maen. Roedd yn bwysig cael chwarel yn gyfleus i gael meini i'r muriau. Byddent yn hollti'r cerrig yn y chwarel i arbed cludo cerrig diwerth heb eisiau. Roedd rhaid cael cerrig da a fyddai'n gorwedd yn esmwyth ar ei gilydd er mwyn gwneud y muriau allanol yn gadarn.

[golygu] Cestyll Cymru

Gweler hefyd Cestyll y Tywysogion Cymreig a Rhestr cestyll Cymru.

Cafodd nifer o gestyll eu codi gan y tywysogion Cymreig, yn arbennig yn y cyfnod rhwng yr 11eg ganrif a thrydydd chwarter y 13eg ganrif. Yn eu plith mae Castell Dolbadarn, Castell Dolwyddelan, Dinas Emrys, Castell y Bere, Castell Cricieth, Castell Carreg Cennen, Castell Dinefwr, Castell y Dryslwyn, a Castell Dinas Brân.

Adeiladwyd llawer o gestyll yng Nghymru yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y Normaniaid a hefyd gan y Saeson, yn bennaf gan Edward I o Loegr, er mwyn cadarnhau ei goncwest, e.e. Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Caernarfon yng Ngwynedd, neu Castell Biwmares yn Ynys Môn a Chastell Rhuddlan yn Y Berfeddwlad (Clwyd). Y rhain oedd y Cylch Haearn o gestyll o amgylch Gogledd Cymru.

Static Wikipedia 2008 (March - no images)

aa - ab - als - am - an - ang - ar - arc - as - bar - bat_smg - bi - bug - bxr - cho - co - cr - csb - cv - cy - eo - es - et - eu - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - frp - fur - fy - ga - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - jbo - jv - ka - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - ms - mt - mus - my - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nn - -

Static Wikipedia 2007 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -
https://www.classicistranieri.it - https://www.ebooksgratis.com - https://www.gutenbergaustralia.com - https://www.englishwikipedia.com - https://www.wikipediazim.com - https://www.wikisourcezim.com - https://www.projectgutenberg.net - https://www.projectgutenberg.es - https://www.radioascolto.com - https://www.debitoformativo.it - https://www.wikipediaforschools.org - https://www.projectgutenbergzim.com