Caeriw
Oddi ar Wicipedia
Pentref yn ne Sir Benfro yw Caeriw (Saesneg:Carew. Saif rhyw 7 km i'r dwyrain o dref Penfro.
Tyfodd y pentref o amgylch y castell Normanaidd gerllaw. Mae Croes Caeriw, croes Geltaidd 4 medr o uchder yn dyddio o'r 11eg ganrif, yn coffáu Maredudd ab Edwin, aelod o deulu brenhinol Deheubarth (bu farw 1035. Mae'r groes yng ngofal Cadw, ac mae logo Cadw wedi ei seilio arni.