Y Stagbwll
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Y Stagbwll (Saesneg: Stackpole. Saif yn y rhan fwyaf deheuol o Sir Benfro, ger yr arfordir i'r de o dref Penfro. Yn y 19eg ganrif roedd stad Stackpole, oedd yn eiddo i deulu Campbell, yn berchen ar 21,000 hectar yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin; dim ond stad Wynnstay yn y gogledd-ddwyrain oedd yn fwy yng Nghymru.
Dymchwelwyd plasdy Stackpole Court yn 1963; mae'r llynnoedd enwog a grwyd gerllaw yn niwedd y 18fed ganrif yn awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Heblaw pentre'r Stagbwll ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Bosherton, Cheriton, Sain Pedrog a St. Twynnells. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd trwy'r gymuned, a cheir golygfeydd arfordirol nodedig.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 443.