Camros
Oddi ar Wicipedia
Camrhôs Sir Benfro |
|
Mae Camros (cam + rhos, Saesneg: Camrose) yn bentref a phlwyf yng Nghantref Rhos, Sir Benfro. Fe'i lleolir ger yr A487, tua hanner ffordd rhwng Solfach a Tyddewi i'r gorllewin a Hwlffordd i'r dwyrain.
[golygu] Disgrifiad
Roedd Camros yn blwyf sifil, arwynebedd 3386 Ha. Ei poblogaeth dros y blynyddoedd oedd[1]:
Blwyddyn | 1801 | 1831 | 1861 | 1891 | 1921 | 1951 | 1981 |
Poblogaeth | 831 | 1259 | 1126 | 833 | 627 | 690 | 1047 |
Mae'r plwyf fymryn i'r de o'r ffin ieithyddol yn Sir Benfro ac felly yn y rhanbarth mwy Saesneg ei iaith. Yn y pentref ceir adfeilion castell Normanaidd.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Adroddiadau OPCS