Pont Fadlen
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Pont Fadlen (Saesneg: Merlin's Bridge). Saif y pentref fymryn i'r de o dref Hwlffordd, ac mae i bob pwrpas yn faestref iddi.
Daw'r enw o hen Gapel y Santes Fair Magdalen (Cymraeg Canol, Mair Fadlen), sydd bellach yn adfail. Daw'r enw Saesneg hefyd o enw'r capel hwn, "Mawdlyn's Bridge" yn wreiddiol, ac nid oes cysylltiad a Myrddin. Efallai i'r capel fod yn noddfa i wahangleifion ar un adeg.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,184.