Burton, Sir Benfro
Oddi ar Wicipedia
Pentref a chymuned yn ne Sir Benfro yw Burton. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif ar ochr ogleddol Dyfrffordd Aberdaugleddau, i'r gogledd o dref Penfro. Saif Doc Penfro yr ochr arall i'r dŵr, a Burton oedd terfynfa ogleddol y fferi hyd nes i'r bont garllaw gael ei hadeiladu yn 1975. Mae'r eglwys, a gysegrwyd i'r Santes Fair, yn dyddio o'r 13eg ganrif.
Ceir cromlech Neolithig gerllaw, ac mae castell Benton yn wreiddiol yn dyddio o'r 13eg ganrif, er iddo gael ei ail-adeiladu yn llwyr yn y 1930au.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,041.