Mynachlog-ddu
Oddi ar Wicipedia
Pentref, cymuned a phlwyf yng ngogledd Sir Benfro yw Mynachlog-ddu. Saif ychydig i'r gorllewin o'r briffordd A478, ac i'r de-orllewin o bentref Crymych. I'r gorllewin o'r pentref mae copaon Mynydd Preseli. Credir fod rhai o gerrig Côr y Cewri wedi dod o Gaermeini, neu'n fwy cywir Carn Menyn gerllaw.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Dogfael; cyn diddymu'r mynachlogydd roedd y plwyf yn eiddo i Abaty Llandudoch. Roedd Thomas Rees (Twm Carnabwth) (1806 - 1876), un o arweinwyr Merched Beca, yn frodor o Fynachlog-ddu, ac mae wedi ei gladdu yma. Bu'r bardd Waldo Williams yn byw yma o 1911 hyd 1915, pan oedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd, ac yma y dysgodd Gymraeg. Ceir cofeb iddo gerllaw'r pentref.