St. Florence
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw St. Florence. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif ar ffordd gefn ychydig i'r gorllewin o dref Dinbych y Pysgod ac i'r de o'r briffordd A477. Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r Canol Oesoedd, i'r Santes Florence.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Gumfreston. Roedd poblogaeth y gymuned yn 751 yn 2001.