Eglwyswen
Oddi ar Wicipedia
Pentref a phlwyf yng ngogledd Sir Benfro yw Eglwyswen. Saif i'r de o dref Aberteifi ac i'r dwyrain o Abergwaun, ar lethrau gogleddol Mynydd Preseli. Mae'n rhan o gymuned Crymych; mae pentref Crymych rhyw bedair milltir i'r de-ddwyrain.
Ar un adeg defnyddid Whitchurch-by-Cardigan fel enw Saesneg ar y pentref.