Crymych
Oddi ar Wicipedia
Crymych Sir Benfro |
|
Pentref a chymuned yng ngogledd Sir Benfro yw Crymych. I'r gogledd saif bryn Y Frenni Fawr (1269 troedfedd). Mae Afon Nyfer yn llifo trwy Grymych ar ddechrau ei thaith i'r môr ym Mae Ceredigion.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref Eglwyswen.
[golygu] Hanes
Datblygodd yn bennaf oherwydd ei leoliad ar linell rheilffordd y Cardi Bach, a oedd yn rhedeg rhwng Hendy-gwyn ar Daf acAberteifi. Yn ystod dechrau'r ugeinfed ganrif, datblygodd i fod yn ganolfan drafnidiaeth a gwasanaethau ar gyfer cylch amaethyddol eang yn nwyrain y Preseli. Ym 1958, cadarnhawyd statws Crymych fel 'prifddinas y Preseli' pan agorwyd ysgol uwchradd yn y pentref, sef Ysgol y Preseli. Ym 1991, cafodd Ysgol y Preseli ei gwneud yn ysgol gyfun ddwyeithog gyntaf Sir Benfro, gan adlewyrchu hunaniaeth gref Crymych a'r cylch fel cymuned naturiol Gymraeg ei hiaith er gwaethaf yr holl fewnfudo o Loegr ers dechrau'r 1970au.
[golygu] Enwogion
Ymhlith enwogion a fagwyd o fewn ychydig filltiroedd i Grymych gellid crybwyll y Prifathro Thomas Rees, T. E. Nicholas sef "Niclas y Glais", a'r prifardd D. J. Davies (Davies Capel Als).