Castellmartin
Oddi ar Wicipedia
Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw Castellmartin neu Castell Martin (Saesneg: Castlemartin). Saif heb fod ymhell o'r arfordir, 8 km i'r de-orllewin o dref Penfro ac i'r de o Ddoc Penfro.
Ymhlith hynafiaethau'r ardal mae'r castell mwnt a beili Normanaidd a roddodd ei enw i'r pentref. Roedd yr eglwys yn wreiddiol wedi ei chysegru i Sant Martin o Tours.
Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref bychan Warren a tua 12 km o arfordir. O amgylch Warren mae llawer o'r tir yn eiddo i'r fyddin, sy'n ei ddefnyddio ar gyfer ymarfer tanio fel Maes Tanio Tanciau Castell Martin, sydd tua 2400 hectar o arwynebedd. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro trwy'r ardal, ond oherwydd presenoldeb y fyddin mae'n gorfod cadw yn weddol bell o'r arfordir mewn rhan o'r ardal, er ei fod yn croesi'r maes tanio gorllewinol pan nad oes tanio. Roedd poblogaeth y gymuned yn 147 yn 2001.